web analytics

Service Admin Assistant / Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth

    British Red Cross

    About The Role

    Location: Tongwynlais, Cardiff

    Contract type: 1 year fixed term

    Hours: 14 hours per week

    Salary: £17,290 per annum (pro rata) (actual salary for 14 hours is £6,916)

    Could you use your admin skills to contribute positively to a global charity and help support people in crisis?

    Lleoliad: Tongwynlais, Caerdydd

    Math o gontract: Cyfnod penodol am flwyddyn

    Oriau: 14 awr yr wythnos

    Cyflog: £17,290 y flwyddyn (pro rata) (gwir gyflog am 14 awr yw £6,916)

    Allech chi ddefnyddio eich sgiliau gweinyddol i gyfrannu’n gadarnhaol at elusen fyd-eang a helpu i gefnogi pobl mewn argyfwng?

    We’ve got an opportunity…

    We have a fantastic opportunity for an individual with excellent interpersonal skills to join our Independent Living Team as a Service Administrative Assistant.

    You will assist the Support Officer in providing administrative and operational support functions to the area that is managed and delivered in accordance with both the needs of the area and corporate requirements.

    You will be an efficient administrator who is confident to respond to incoming enquiries from healthcare professionals and members of the public over phone and by email. This is a role which requires a motivated, committed and enthusiastic person with excellent communication skills and an ability to deal with people in a sensitive yet professional manner. You will be able to use IT systems and databases in your role and produce well written letters and emails.

    This will be a rewarding role for the right person, you’ll be helping us to support people when crisis strikes.

    Mae gennym gyfle…

    Mae gennym gyfle gwych i unigolyn sydd â sgiliau rhyngbersonol rhagorol i ymuno â’n Tîm Byw’n Annibynnol fel Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth.

    Byddwch yn cynorthwyo’r Swyddog Cefnogi i ddarparu cefnogaeth weinyddol a gweithredol i’r Ardal sy’n cael ei rheoli a’i chyflwyno yn unol ag anghenion yr Ardal a gofynion corfforaethol.

    Byddwch yn weinyddwr/wraig effeithlon sy’n hyderus i ymateb i ymholiadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac aelodau o’r cyhoedd dros y ffôn a drwy e-bost. Dyma swydd sy’n gofyn am berson brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ddelio â phobl mewn modd sensitif ond proffesiynol. Byddwch yn gallu defnyddio cronfeydd data a systemau TG yn eich swydd, a llunio llythyrau a negeseuon e-bost sydd wedi’u hysgrifennu’n dda.

    Bydd hon yn swydd sy’n rhoi boddhad i’r unigolyn cywir, a byddwch yn ein helpu i gefnogi pobl pan fydd argyfwng.

    Say hello to the team..

    We are a small team connected by the common goal of supporting people in crisis. The Independent Living & Crisis Response service (IL/CR) supports people in the space between hospital and home and responds to the needs of people in crisis following an emergency; maintaining an extensive network of external relationships across health, social care, and emergency services. You’ll work collaboratively with staff at all levels to help us provide the best service possible.

    Gair am y tîm…

    Rydym yn dîm bach sy’n rhannu’r nod o gefnogi pobl mewn argyfwng. Mae’r gwasanaeth Byw’n Annibynnol ac Ymateb i Argyfwng yn rhoi cymorth i bobl yn y bwlch rhwng yr ysbyty a’r cartref, ac yn ymateb i anghenion pobl sydd ddim yn gwybod ble i droi yn dilyn argyfwng; gan gynnal rhwydwaith eang o gysylltiadau allanol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r gwasanaethau brys. Byddwch yn cydweithio â staff ar bob lefel i’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl.

    About you…

    To be successful in this position you must have the following skills and experience:

    • Positive, passionate and enthusiastic approach to customer service
    • Confident in using telephone systems, Microsoft packages & Outlook with the ability to create, amend and manipulate Word, Excel, Access and PowerPoint applications
    • General administrative duties; incoming and outgoing mail, answering the telephone and scanning, filing, meeting and greeting customers
    • Outgoing with excellent interpersonal and communication skills
    • Ability to deal with queries in a diplomatic, professional and confidential manner both verbally and in writing
    • Ability to work accurately, check documentation for accuracy

    Gair amdanoch chi…

    Er mwyn llwyddo yn y swydd hon bydd yn rhaid i chi feddu ar y sgiliau a’r profiad canlynol:

    • Agwedd gadarnhaol, angerddol a brwdfrydig tuag at wasanaeth i gwsmeriaid
    • Hyderus wrth ddefnyddio systemau ffôn, pecynnau Microsoft ac Outlook gyda’r gallu i greu, diwygio a thrin rhaglenni Word, Excel, Access a PowerPoint
    • Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol; post sy’n cyrraedd ac yn gadael, ateb y ffôn a sganio, ffeilio, ateb a chyfarch cwsmeriaid
    • Siriol, gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
    • Gallu delio ag ymholiadau mewn ffordd ddiplomataidd, broffesiynol a chyfrinachol, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig
    • Gallu gweithio’n gywir, gwirio dogfennau i sicrhau cywirdeb

    Closing date for completed applications is 23:59 on the 5th October 2022 with interviews to follow

    Should you have any questions on this role please email us at quoting vacancy ID 6218

    Need help completing your application or supporting statement? Please read our useful “Candidate Application Guidance” document in the “Additional Information” link.

    Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau cyflawn yw 23:59 5 Hydref 2022 , a bydd y cyfweliadau’n dilyn.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, anfonwch neges e-bost atom yn recruitment@redcross.org.uk gan nodi rhif y swydd wag, sef 6218

    Angen help i lenwi eich cais neu’ch datganiad ategol? Darllenwch ein dogfen ddefnyddiol “Canllawiau Ymgeisio ar gyfer Ymgeiswyr” yn y ddolen “Gwybodaeth Ychwanegol”.

    We offer a wide range of staff benefits, these include:

    • 36 days holiday (including Bank Holidays)
    • Option to buy an extra 5 days annual leave
    • Up to 6% contributory pension
    • Flexible working policy
    • Discounts from a range of high street and online retailers

    Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fuddion i staff, gan gynnwys:

    • 36 diwrnod o wyliau (gan gynnwys gwyliau banc)
    • Y dewis i brynu 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol
    • Hyd at 6% o bensiwn cyfrannol
    • Polisi gweithio’n hyblyg
    • Gostyngiadau gan amrywiaeth o adwerthwyr ar y stryd fawr ac ar-lein

    A little bit more about us…

    The British Red Cross help anyone, anywhere in the UK; get the support they need if crisis strikes. From hiring a wheelchair or dealing with loneliness, to adjusting to life in a new country – we’re there when you need us.

    Our organisation was born out of a desire to bring help without discrimination.

    Impartiality and neutrality have been central values for the Red Cross since we started.

    At the British Red Cross, we are looking for the best people to help us provide support to millions of people affected by crisis in the UK. We want our team to reflect the diversity of the communities we serve, offering equal opportunities to everyone, regardless of; age, disability, gender reassignment, marriage and civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sex, or sexual orientation.

    Diversity is something we celebrate and we want you to be able to bring your authentic-self to the Red Cross. We want you to feel that you are in an inclusive environment, and a great position to help us spread the power of kindness.

    In the British Red Cross we will not tolerate any form of misconduct, including sexual harassment, exploitation and abuse. We have a code of conduct in place, and are committed to creating a culture of integrity in the organisation where misconduct is not tolerated, situations of abuse are quickly investigated and perpetrators are dealt with effectively.

    If you are appointed to a role within BRC you will be subject to the organisation’s Code of Conduct, a copy of which you can find on our website.

    As part of its recruitment and selection process the British Red Cross undertakes DBS (Disclosure and Barring Service) checking of all individuals who regularly work with or have access to children and vulnerable adults.

    If driving is an essential requirement of the role, appropriate driver checks will be completed in line with current policy.

    The British Red Cross, incorporated by Royal Charter 1908, is a charity registered in England and Wales (220949) and Scotland (SC037738).

    Follow us on Twitter @RedCrossJobsUK and on Linked in – British Red Cross, to hear about our latest job vacancies.

    Connecting human kindness with human crisis

    Gair amdanom ni…

    Mae’r Groes Goch Brydeinig yn helpu unrhyw un, unrhyw le yn y DU i gael y cymorth sydd ei angen arnynt os bydd argyfwng. O logi cadair olwyn, delio ag unigrwydd neu addasu i fywyd mewn gwlad newydd – byddwn yno pan fyddwch ein hangen. Gwraidd ein sefydliad oedd dyhead i roi cymorth heb wahaniaethu.

    Mae didueddrwydd ac amhleidioldeb wedi bod yn werthoedd canolog i’r Groes Goch ers y cychwyn cyntaf. Yn y Groes Goch Brydeinig, rydym yn chwilio am y bobl orau i’n helpu ni i ddarparu cymorth i filiynau o bobl yn y DU y mae argyfwng wedi effeithio arnynt. Rydym am i’n tîm adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, gan roi cyfleoedd cyfartal i bawb heb ystyried hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth o ran rhywedd, oedran nac anabledd. Rydym yn dathlu amrywiaeth ac rydym am i chi allu bod yn chi eich hun yn y gwaith, a theimlo eich bod mewn safle gwych i’n helpu ni i ledaenu pŵer caredigrwydd.

    Nid ydym yn goddef unrhyw fath o gamymddwyn, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, camfanteisio a cham-drin. Mae gennym god ymddygiad ar waith ac rydym wedi ymrwymo i greu diwylliant o uniondeb yn y sefydliad, lle nad yw camymddwyn yn cael ei oddef, lle rydym yn ymchwilio i sefyllfaoedd o gam-drin yn gyflym, a lle rydym yn delio â thramgwyddwyr yn effeithiol. Os byddwch yn cael eich penodi i rôl yn y Groes Goch Brydeinig, byddwch yn ddarostyngedig i God Ymddygiad y sefydliad. Mae copi ohono ar gael ar ein gwefan.

    Fel rhan o’i phroses recriwtio a dethol, mae’r Groes Goch Brydeinig yn gofyn am archwiliad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer pob unigolyn sy’n gweithio’n rheolaidd gyda phlant ac oedolion agored i niwed neu sydd â mynediad atynt. Os yw gyrru’n un o ofynion hanfodol y rôl, bydd gwiriadau gyrrwr priodol yn cael eu gwneud yn unol â’r polisi cyfredol.

    Mae’r Groes Goch Brydeinig wedi’i hymgorffori gan Siarter Frenhinol 1908 ac yn elusen sydd wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (220949) a’r Alban (SC037738).

    Dilynwch ni ar Twitter – @RedCrossJobsUK ac ar LinkedIn – British Red Cross, i glywed am ein swyddi gwag diweddaraf.

    Cysylltu caredigrwydd dynol ag argyfyngau dynol

    About The Candidate

    About The Company

    Expected salary: £17290 per year GBP

    Job date: Fri, 23 Sep 2022 03:42:30 GMT

    Service Admin Assistant / Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth

    To apply for the job click here

    Service Admin Assistant / Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaeth

    To apply for the job click here

    Contact us

    British Red Cross

    Related Jobs